Enghraifft

Merthyr yn cyfyngu gwastraff gweddilliol

Rhoir llawer o ddeunyddiau ailgylchu mewn biniau gwastraff cyffredinol ar draws y sir. Wrth leihau maint y biniau gweddilliol a darparu mwy o flychau ailgylchu, bydd trigolion yn ystyried yn ofalus beth i roi yn eu biniau.

Penderfynodd Cyngor Merthyr ad-drefnu ei system ailgylchu ar sail hynny, gan elwa’n syth o’r drefn newydd.

Cyflwyno biniau olwyn 140 litr yn lle’r rhai 240 litr

Yn Ionawr 2015, penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful roi bin newydd 140 litr i bob cartref yn lle’r hen finiau 240 litr, y cam cyntaf i ddiwygio’r gwasanaeth casglu er mwyn cyrraedd targedau ac osgoi dirwyon diangen.

Roedd Merthyr yn methu cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru, gan gofrestru cyfradd ailgylchu o 48.2%, yr isaf yng Nghymru. Fel rhan o strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff y llywodraeth, byddai awdurdodau lleol yn methu cyrraedd targedau statudol y llywodraeth yn destun dirwy yn dibynnu ar y diffyg. Y flwyddyn honno, roedd Merthyr yn destun dirwy o £224,000 am fethu’r targed o 52%, ynghyd â chosb ychwanegol o £24,600 am fynd dros ei lwfans safleoedd tirlenwi. 

Derbyniodd y Cyngor gymorth drwy’r broses gan raglen newid gydweithredol Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio ei ymarfer modelu er mwyn rhagamcanu arbedion ariannol sylweddol wrth newid y gwasanaeth a denu buddsoddiad ariannol gwerth £2 miliwn i dalu am gerbydau a blychau, a depo newydd ger swyddfa’r tîm gwastraff.

O dan yr hen drefn, roedd cyfranogiad y cyhoedd yn y gwasanaeth ailgylchu yn weddol isel, yn arbennig casgliadau gwastraff bwyd, a ddefnyddiwyd gan ddim ond 34% o’r trigolion. Datgelodd dadansoddiad o’r gwasanaeth gyda biniau 240 litr, hyd yn oed gyda chasgliadau bob pythefnos, nad oedd llawer o’r trigolion yn gweld bod angen didoli deunyddiau i’r llifoedd ailgylchu. 

Wrth leihau maint y biniau gwastraff gweddilliol, a gwahardd bagiau ychwanegol, nod y Cyngor oedd gwthio deunyddiau ailgylchu o’r llif gwastraff gweddilliol i mewn i’r system ailgylchu. Byddai hynny’n gostwng costau gwaredu’n sylweddol, cynyddu refeniw wrth werthu deunydd ailgylchu a gwella perfformiad ailgylchu’r Cyngor.

Aeth chwe warden y Cyngor ati i weithredu trefn orfodol ar gyfer cartrefi’n gwrthod dilyn y cyfyngiadau gwastraff newydd, gan roi rhybudd ac ymweld â’r trigolion yn y lle cyntaf, ac yna yn wyneb troseddau pellach, rhoi hysbysiadau cosbau penodol.

Canolbwyntio ar newid ymddygiad

Cymell y cyhoedd i ailgylchu mwy o’u gwastraff

Cyn newid i’r biniau 140 litr ar gyfer gwastraff gweddilliol, trefnodd y Cyngor raglen gyfathrebu dros naw mis er mwyn paratoi’r trigolion ar gyfer y newidiadau ac esbonio’r rhesymau am eu cyflwyno. 

Datblygwyd deunyddiau cyfryngau cymdeithasol, posteri a thaflenni gyda WRAP a Craff am Wastraff gan ganolbwyntio ar newid ymddygiad pobl, nid yn unig ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth newydd. Cynlluniwyd brand newydd ar gyfer y newid, gyda gwefan yn lledu neges ailgylchu Merthyr.

Trefnwyd ymgyrch gan wardeniaid y Cyngor i alw ar ddrysau’r ardal a chynnal nifer o ddigwyddiadau yn y cyfnod yn arwain at y newid er mwyn esbonio’r drefn newydd, gyda phob gweithiwr gyda’r Cyngor yn derbyn cyfarwyddyd ar y rhesymau am y newidiadau er hwyluso’r newid i’r gwasanaeth newydd.

Canlyniadau ariannol ac amgylcheddol

Mesurau wedi gostwng lefelau gwastraff gweddilliol

Ar ôl cyfyngu’r gwastraff gweddilliol gallai trigolion roi allan i’w gasglu, cododd cyfradd ailgylchu’r sir yn syth uwchben y 53% targed y methwyd cyrraedd o dan y drefn flaenorol. Ar ben hynny, yn ail chwarter 2015/16 cofnododd y Cyngor wastraff gweddilliol o 51 cilogram per person, sef 12% yn llai na 58cg y chwarter blaenorol.

Ar yr un pryd â gostwng faint o wastraff gweddilliol gallai trigolion roi allan i’w gasglu, cyflwynodd y Cyngor wasanaeth casglu deunydd ailgylchu cynhwysfawr, yn cynnwys casgliad gwastraff bwyd ar wahân.

Yn ogystal ag arbed arian wrth osgoi costau gwaredu gwastraff, mae ansawdd uwch y deunyddiau ailgylchu a gesglir gan y system newydd yn cynhyrchu incwm sylweddol ar gyfer y Cyngor, ble gynt roedd yn talu contractwr i’w gludo i ffwrdd.

Enghraifft PDF

Download