Enghraifft

Ailddefnyddio ar ganolfan ailgylchu Abertawe

Mae ‘gwastraff’ cartrefi’n cynnwys deunyddiau sydd dal yn werthfawr a defnyddiol, yn benodol eitemau mawr fel dodrefn ac eitemau trydanol, a bric a brac. Gall fod yn anodd i bobl waredu gwastraff swmpus fel hyn mewn modd sy’n cynnal ei werth cynhenid.

Wrth osod canolfan ailddefnyddio ochr yn ochr â chanolfan ailgylchu gwastraff preswyl, mae pobl yn gallu gadael eitemau i’w hailddefnyddio wrth ailgylchu deunyddiau eraill.

.

The Corner Shop currently is currently located in containers next to the household waste recycling centre

Siop Gornel drws nesaf i’r ganolfan ailgylchu

Sefydlwyd ‘Y Siop Gornel’, uned ailddefnyddio drws nesaf i ganolfan ailgylchu gwastraff preswyl Llansamlet, Abertawe, tair blynedd yn ôl mewn cynhwysydd llongau oedd yn cael ei ddefnyddio fel swyddfa. 

Erbyn hyn, mae’r siop yn agored saith diwrnod yr wythnos ac o fewn dau adeilad modiwlar, un ar gyfer dillad a bric-a-brac, a’r llall eitemau trydanol a dodrefn. Mae’n elwa o fod mor agos i’r ganolfan ailgylchu oherwydd mae trigolion yn gallu rhoi eitemau i’w hailddefnyddio wrth waredu gwastraff. 

Mae’n cyflogi pum peiriannydd neu dechnegydd er mwyn adnewyddu nwyddau trydanol yn y tri gweithdy. Yn ogystal, mae chwe aelod staff arall wedi derbyn hyfforddiant achrededig fel profwyr PAT.

Ar hyn o bryd, mae’r siop yn adnewyddu 30 i 40 teledu bob mis. Byddant yn trwsio neu adnewyddu’r holl eitemau trydanol yn ôl yr angen. Yna byddant yn destun profion PAT cyn eu gwerthu yn y siop, gydag adroddiad gwasanaeth gyda phob eitem er mwyn nodi ei hanes. 

Ailgylchu mwy

Maximising interception of recyclables

Gosod y ganolfan ailddefnyddio ger y ganolfan ailgylchu yn hwylus i’r cyhoedd

Daw y rhan helaeth o’r eitemau a werthir yn y siop o ganolfannau ailgylchu Clyne, Garngoch, Penlan & Tir John, a gesglir gan staff y canolfannau ynghyd ag eitemau o gasgliadau gwastraff swmpus. 

Fodd bynnag, un o’r ffyrdd mwyaf defnyddiol o gael eitemau yw pan fydd staff yn didoli eitemau o fagiau du a dderbynnir i’w gwaredu ar y safleoedd. 

Datgelodd un dadansoddiad gwastraff diweddar bod oddeutu 60% o’r gwastraff o fewn bagiau du mewn cyflwr digon da i’w ailgylchu. Mae’r gwasanaeth yn cipio eitemau gellir ailddefnyddio neu ailgylchu ac yn addysgu’r cyhoedd o ran beth na ddylid rhoi yn eu biniau gwastraff gweddilliol.

Cyn bo hir, bwriedir trosi canolfan ailgylchu Llansamlet, sydd drwy’r Siop Gornel ar hyn o bryd yn ailddefnyddio 67 i 70 tunnell o wastraff bob chwarter, i ganolfan ailgylchu 100% na fydd yn derbyn gwastraff gweddilliol. 

Yn y dyfodol, bydd staff yn gofyn pobl i dynnu gwastraff halogedig neu heb ei ddidoli a’i baratoi’n iawn ar gyfer ailgylchu neu ailddefnyddio.

Buddion cymdeithasol

The social benefits of reuse

Cyngor hefyd yn casglu gwastraff swmpus

Yn ogystal â chyflogi staff technegol i adnewyddu eitemau trydanol yn y siop, mae gwirfoddolwyr hefyd yn helpu gyda’r gwaith beunyddiol. Fel pobl gydag anawsterau dysgu, maent yn cael cyfle i weithio yn y siop drwy gyfrwng partneriaeth gyda’r adran gwasanaethau cymdeithasol lleol er mwyn eu helpu i deimlo’n rhan o’r gymuned.

Mae’r safle hefyd wedi sefydlu partneriaethau eraill, yn cynnwys gwasanaeth casglu beiciau wythnosol ar y cyd â charchar Abertawe. Mae’n cymryd beiciau o wahanol fathau, yn cynnwys beiciau plant, i’r carchar ble bydd y carcharorion yn eu hadnewyddu fel rhan o’u hyfforddiant. Byddant yn derbyn 20 i 25 beic bob wythnos, gan eu gwerthu am oddeutu £10 yn y Siop Gornel. 

Ar ben hynny mae’r siop yn rhoi eitemau i Penderry Providers, Penlan, Abertawe, sy’n edrych ar ôl pobl sy’n wynebu problemau megis tor-perthynas. Mae’n rhoi pethau fel padelli ffrio, tegellau, sosbenni, platiau, cyllyll a ffyrc ac ati er mwyn helpu pobl sydd wedi cael cartref newydd ond heb lawer i roi ynddynt.

Enghraifft PDF

Download