Enghraifft

Ailgylchu comunol Casnewydd

Mae nodweddion blociau fflatiau’n galw am atebion gwahanol wrth ddarparu gwasanaethau ailgylchu. Yn gyffredinol, nid ydynt yn cynnig yr un gofod i storio deunyddiau ailgylchu ac nid yw’r trigolion yn gallu gosod deunyddiau i’w casglu ger y stryd yn yr un modd â phobl yn byw mewn tai. Er mwyn darparu gwasanaeth ailgylchu cynhwysfawr ar gyfer fflatiau, mae Cyngor Casnewydd yn darparu cyfleusterau ailgylchu comunol.

Gwasanaethu adeiladau gwahanol

Newport flats communal recycling facilities

Gwasanaeth ailgylchu cynhwysfawr ar gyfer oddeutu 7,000 fflat

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi casglu deunyddiau ailgylchu sych gyda cherbydau un pas ers dechrau ei gasgliadau ailgylchu. Dros y 25 blynedd diwethaf mae menter gymdeithasol Wastesavers wedi gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor i ddarparu’r gwasanaeth. 

Yn y lle cyntaf, cynigiwyd y gwasanaeth i gartrefi un teulu yn unig, ond dros y 10 blynedd diwethaf cyflwynwyd opsiwn yn seiliedig ar gyfleusterau ailgylchu comunol mewn blociau fflatiau ac adeiladau’n cynnwys sawl teulu, sef blociau gyda rhwng 6 a 18 cartref. Erbyn heddiw, mae 445 o’r cyfleusterau ailgylchu comunol yn y ddinas, yn gwasanaethu oddeutu 7,000 cartref. Er mwyn cyrraedd y targedau ailgylchu, mae’r Cyngor yn mynnu bod trigolion pob cartref, sef fflatiau a thai, yn gosod deunydd ailgylchu yn y blychau addas i’w casglu bob wythnos, yn cynnwys casgliad bwyd gwastraff ar wahân. Ar sail hynny cofnododd Casnewydd gyfradd ailgylchu gyffredinol o 57% yn 2015/16.  

Cyfleusterau ailgylchu comunol

Communal recycling facilities

Labeli ar glawr ac ochr pob bin yn hwyluso dewis yr un iawn

Fel rhan o’r gwasanaeth bydd trigolion Casnewydd yn derbyn pum bin olwyn gwahanol yn y cyfleusterau ailgylchu comunol ar gyfer papur, plastig, gwydr, caniau & cardbord. 

Oherwydd y prinder gofod mewn fflatiau, bydd y Cyngor yn rhoi sachau hessian i bob cartref er mwyn cludo deunydd ailgylchu i’r biniau comunol. 

Cesglir gwydr mewn bin 240 litr. Pennir maint y bin yn ôl nifer y fflatiau, gan ddefnyddio biniau 360 litr mewn rhai achosion ar gyfer deunyddiau eraill. Mewn blociau fflatiau mawr gyda mwy o wastraff i’w drin, defnyddir biniau 660 litr. 

Rhoir labeli clir ar ochr a chlawr y biniau er mwyn hwyluso defnydd gan y trigolion a gostwng lefelau halogi. Pan fydd angen, diogelir y biniau wrth eu cysylltu â physt cadarn.

Gwastraff bwyd

Key information has been translated into many different languages

Key information has been translated into many different languages

Mae rhai o’r cyfleusterau ailgylchu comunol hefyd yn cynnwys bin gwastraff bwyd brown 240 litr ychwanegol, gyda thrigolion y fflatiau’n cael blwch bwyd 5 litr a bagiau biodiraddadwy am ddim er mwyn trafod eu gwastraff bwyd. Defnyddir biniau arbenigol ar gyfer gwastraff bwyd, sy’n fwy cadarn ac yn haws i’w cadw’n lân.  

Er mwyn cefnogi’r gwasanaeth ailgylchu cynhwysfawr, mae’r Cyngor wedi cyhoeddi amryw daflenni i hyrwyddo’r gwasanaeth.

Oherwydd yr amrywiaeth o bobl yn y fflatiau, o ran oedran ac ethnigedd, cynhyrchwyd y taflenni mewn sawl iaith, yn cynnwys Pwyleg, Arabeg, Bengali, Urdu a Kurdish.

Ac mae’r Cyngor wedi recriwtio eiriolwyr anffurfiol ar gyfer llawer o’r cyfleusterau comunol. 

Deunyddiau safon uchel

Some of the communal recycling bins are fitted with apertures to ensure the correct material is recycled

Blychau ar rai biniau er sicrhau ailgylchu’r deunydd iawn

Defnyddir cerbydau casglu arbenigol ar gyfer y casgliadau ailgylchu comunol wythnosol, gan godi’r biniau olwyn a rhoi’r deunydd ailgylchu yn yr adrannau penodol. Defnyddir yr un cerbydau i gasglu deunyddiau gan gwsmeriaid masnachol y Cyngor am eu bod yn defnyddio blychau ailgylchu tebyg.

Yn wahanol i gartrefi un teulu, nid os cymaint o sgôp i drafod yn uniongyrchol gyda’r rhai sy’n gyfrifol am halogi biniau mewn cyfleusterau ailgylchu comunol. 

Er mwyn taclo hynny, gosodwyd labeli clir ar ochr a chlawr y biniau. Yn ogystal, yn achos biniau papur a chaniau, mae modd gosod blwch sy’n cyfyngu’r potensial i roi’r deunydd anghywir ynddynt; ynghyd â system cloi disgyrchiant sydd ond yn agor pan fydd y cerbydau casglu yn eu codi i ddadlwytho. 

Buddion ailgylchu

Benefits of recycling

Staff yn archwilio’r biniau cyn eu llwytho ar y cerbyd er isafu halogi

O’r cychwyn mae Casnewydd wedi canolbwyntio ar gasglu deunyddiau o safon sy’n hawlio pris da wrth eu gwerthu. Drwy’r mesurau uchod, mae Wastesavers wedi llwyddo i isafu lefelau halogi er casglu deunydd ailgylchu o safon, gan dderbyn prisiau uchel yn rheolaidd er bod prisiau ar y farchnad deunyddiau ailgylchu yn amrywio.  

Wrth werthu adnoddau gwastraff i ailbroseswyr, bydd y Cyngor yn osgoi talu ffioedd gwaredu, sy’n gostwng effeithiau economaidd ac amgylcheddol ei brosesau rheoli gwastraff ac yn cynhyrchu incwm o’r gwastraff. Mae cael y trigolion i ddidoli’r gwastraff hefyd yn osgoi’r angen am gyfleusterau didoli drud a’r ffioedd porth cysylltiedig. 

Mae’r incwm o werthu deunyddiau o safon hefyd wedi helpu i gefnogi gwaith Wastesavers i gymell plant lleol i ailgylchu drwy ei raglen addysg. Yn 2014/15 ymwelodd 930 disgybl o 25 ysgol yn yr ardal ag ystafell addysg y fenter. 

Enghraifft PDF

Download