Biniau llai yn sir Ddinbych
Mae’r gofod mewn biniau gwastraff gweddilliol cartrefi’n chwarae rôl bwysig mewn lefelau ailgylchu: os bydd llai o le ar gyfer gwastraff cyffredinol, bydd pobl yn didoli eu gwastraff ac yn rhoi mwy o ddeunyddiau mewn bagiau ailgylchu.
Wrth arloesi gyda’r drefn hon, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gostwng maint y biniau gweddilliol a nifer y casgliadau.
Cyfyngu gwastraff gweddilliol
Gyda’r nod o gyrraedd targedau dim gwastraff Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyfyngu gwastraff gweddilliol preswyl yn raddol ers 2006 – yn cynnwys casglu’r biniau yn llai aml a gostwng maint y biniau tra’n cynyddu’r cynhwysedd ailgylchu.
Cyn 2006, roedd y Cyngor yn casglu bagiau du bob wythnos, ond yn dal i drin llai o wastraff gweddilliol preswyl na’r cyfartaledd, felly wrth gyflwyno biniau olwyn, dewisodd faint cymharol fach o 180 litr.
Ar y cychwyn, derbyniodd 10,000 cartref y biniau olwyn 180 litr, o gyfanswm o oddeutu 42,000. Yn ogystal, gostyngodd y casgliad i bob pythefnos ac uwchraddiodd y cyfleusterau ailgylchu deunydd sych.
Roedd cyflwyno’r gwasanaethau hyn i chwarter o’r boblogaeth yn ddigon i godi’r gyfradd ailgylchu 10% o fewn blwyddyn.
Datblygu’r gwasanaeth ailgylchu
Yn Ebrill 2009, cyflwynwyd mwy o newidiadau yn cynnwys ymestyn gwasanaeth ailgylchu’r Cyngor i dderbyn mwy o lifoedd gwastraff, gan gynnwys cardbord, plastig cymysg a gwastraff bwyd. Yn dilyn hynny, cynyddodd y deunydd ailgylchu sych o bob cartref o oddeutu 175 cilogram i 225cg, gan ddargyfeirio tua 100cg ychwanegol o wastraff bwyd preswyl. Arweiniodd hynny at godi’r gyfradd ailgylchu o oddeutu 27% i dros 50%.
Yn arwyddocaol, er y gostyngiad yn y gwastraff yn pasio’r drwy’r safleoedd, datgelodd y timau casglu fod dal mwy o le mewn biniau gweddilliol cartrefi am eu bod yn ailgylchu mwy, a bod cynnwys y biniau gweddilliol yn fwy sych oherwydd bod pobl yn ailgylchu mwy o wastraff bwyd. Roedd hynny’n ddigon i symbylu’r Cyngor i ostwng maint y biniau gweddilliol ymhellach i 140 litr (neu 70 litr am ei fod yn casglu bob pythefnos), gan arbed arian cyfalaf wrth ddosbarthu biniau newydd pan oedd angen, yn hytrach na’u rhoi i bawb ar yr un pryd.
Mae’r newidiadau wedi codi’r gyfradd ailgylchu i dros 62% a gostwng gwastraff gweddilliol y sir i oddeutu 42,000 tunnell y flwyddyn, sef llai na 150 cilogram per cartref bob blwyddyn.
Arbed arian
Gyda chymorth llawn y Cyngor, ni wynebodd y tîm gwastraff ac ailgylchu lawer o broblemau gyda’r cyhoedd wrth drosi i’r biniau 140 litr. Mae newidiadau’r Cyngor i’w wasanaeth gwastraff ac ailgylchu wedi arbed llawer o arian, yn arbennig wrth ostwng ffioedd gwaredu gwastraff gweddilliol.
Gyda threthi safleoedd tirlenwi dros £80 per tunnell ar hyn o bryd, mae cyfanswm costau gwaredu gwastraff yn awr dros £100 per tunnell, felly mae gostwng gwastraff gweddilliol wedi arbed arian sylweddol. Yn wir, mae gwariant y Cyngor ar wasanaethau gwastraff ac ailgylchu wedi gostwng o flwyddyn i flwyddyn, ac er y cynnydd sylweddol mewn trethi safleoedd tirlenwi, costau trin gwastraff a chwyddiant, mae’r gyllideb wastraff ac ailgylchu bresennol yn llai nag yr oedd yn 2006/07, pan ddechreuodd y Cyngor gyfyngu gwastraff.
Yn ôl data dros dro chwarter cyntaf 2016 mae gwastraff gweddilliol yn dal i ostwng yn sir Ddinbych - gyda’r trigolion yn cynhyrchu prin 37 cilogram o wastraff yn y chwarter o gymharu â 45cg yn yr un chwarter y flwyddyn flaenorol, ac o gymharu â chyfartaledd Cymru gyfan o 51cg per person - mae buddion ariannol ac amgylcheddol cyfyngu gwastraff gweddilliol yn dal i dyfu.