Enghraifft

Canolfannau ailgylchu gwastraff preswyl Rhondda Cynon Taf

Mae canolfannau ailgylchu gwastraff preswyl yn galluogi trigolion i ailgylchu amrediad eang o ddeunyddiau nad oes modd eu casglu ar y stryd, ynghyd â gwastraff swmpus. Wrth drefnu safleoedd yn ofalus a hyfforddi staff yn dda, gall cynghorau agor llifoedd ailgylchu ac ailddefnyddio newydd, fel yn Rhondda Cynon Taf ble mae canolfan ailgylchu 100% yn codi perfformiad i lefelau newydd.

Derbyn amrediad eang o ddeunyddiau

Recycling options for most materials

Ailgylchu’r rhan helaeth o ddeunyddiau

Er bod casgliadau stryd wedi datblygu llawer yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn gwella effeithlonrwydd a’r effaith ar ailgylchu, ni fyddant yn gallu cynnwys pob llif gwastraff ailgylchu a gynhyrchir gan gartrefi. Yn achos amrediad eang o ddeunyddiau, mae canolfannau ailgylchu gwastraff preswyl yn hanfodol er mwyn adennill gwerth ac adnoddau. 

Yn Rhondda Cynon Taf, gosodwyd saith canolfan mewn safleoedd strategol ar draws y sir er mwyn diwallu anghenion y boblogaeth o 235,000. Yn aml bydd y safleoedd yn ailgylchu dros 90% o’r deunydd a gesglir ac yn y 12 mis hyd Rhagfyr 2015 cofnodwyd cyfradd gyffredinol o 87.17%. A byddant hyd yn oed yn dargyfeirio deunydd nad oes modd ei ailgylchu o safleoedd tirlenwi ble bynnag mae’n bosibl. Mae’r cyfraddau dargyfeirio misol o safleoedd tirlenwi dros 90% yn rheolaidd, ac yn yr un 12 mis cofnodwyd cyfradd gyfartalog o 89.68%.

Canolfan Ailgylchu 100% Llantrisant

The site at Llantrisant is designed to take smaller recyclables on the outer edge of the site circuit

Cynllun safle Llantrisant yn derbyn deunyddiau ailgylchu bach ar ochr allanol y cylch

Yn 2015 agorodd y Cyngor ganolfan ailgylchu 100% Llantrisant, gyda tharged o ailgylchu’r holl ddeunydd a dderbynnir ar y safle. Mae’r nod hwnnw wedi gyrru gwaith y safle, nad yw’n cynnwys sgip ar gyfer gwastraff cyffredinol. 

Adeiladwyd y safle ar sail cynllun modiwlar sy’n tywys cerbydau o amgylch carousel o flociau. Mae ramp yn codi’r ceir uwchben sgipiau ar gyfer eitemau trwm, gan hwyluso symud o gwmpas a gadael deunyddiau fel pren, gwastraff gwyrdd, metel & plastig. Ar y llawr gwaelod, mae blychau llai ar gyfer cardbord, tecstilau a gwydr.

Gyda chyllid gan raglen newid gydweithredol Llywodraeth Cymru, mae’r safle wedi cofnodi cyfradd ailgylchu o oddeutu 95% bob mis ers agor ym mis Hydref 2015, gyda’r gyfradd ddargyfeirio’n cyrraedd mor uchel â 98.9%. Rhagwelir bydd y safle’n profi’n un o ganolfannau mwyaf poblogaidd y Cyngor.

Gwahardd bagiau du

Taking a wide range of materials

Staff operate a meet and greet policy for visitors to the HWRCStaff yn cyfarch a helpu ymwelwyr i ddidoli eu gwastraff

Un polisi allweddol sy’n helpu’r Cyngor i ailgylchu a dargyfeirio mwy o ddeunyddiau yw gwahardd bagiau gwastraff du ar ei ganolfannau ailgylchu. 

Cyflwynwyd y mesur ym Mehefin 2014, pan gyfyngodd y Cyngor y gwastraff gweddilliol byddai ei wasanaeth yn casglu bob pythefnos (un bag i bobl gyda bin olwyn 120 litr, dim bag yn achos biniau olwyn 240 litr). Dyfeisiwyd er sicrhau byddai trigolion yn didoli eu gwastraff ac yn cymryd gofal wrth daflu pethau i ffwrdd. Bydd y staff yn herio unrhyw rai sy’n dod â bag du ar y safle, gan ofyn iddynt ddidoli’r cynnwys neu ei gymryd i ffwrdd.

Canlyniad y polisi oedd codi cyfradd ailgylchu canolfannau’r sir o 78.4% i 93.4%. 

Hwyluso’r broses

Making the process as easy as possible

Cynllun aml lefel yn osgoi dringo grisiau i gyrraedd rhai blychau

Cynllunnir canolfannau ailgylchu’r Cyngor er mwyn gwneud y broses mor syml â phosibl. Gosodwyd y banciau gwastraff cyffredinol tua’r cefn ar y safleoedd, ar wahân i safle Llantrisant nad yw’n cynnwys un. O ganlyniad, erbyn eu cyrraedd bydd pobl wedi gwaredu cymaint â phosibl o’u gwastraff. Mae gosod arwyddion clir hefyd yn bwysig, gyda rhif ar bob bae, a llun a geiriau Cymraeg a Saesneg yn esbonio cynnwys pob blwch.

Mae cynllun clir a chyson yn hwyluso polisi cyfarfod & cyfarch y staff, gan drafod beth bydd pobl am waredu ac esbonio ble i’w gymryd er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o’r safle.

Wrth gyfarfod pobl fel hyn, bydd y staff yn teimlo’n rhan bwysig o’r gwaith ar ôl derbyn gwybodaeth fanwl am brosesau’r canolfannau. Yn ei dro, bydd hynny’n eu helpu i gynghori’r bobl a bod yn rhan o’r broses o gymryd penderfyniadau. 

Ailddefnyddio eitemau

Materials collected are diverted for onward use

Didoli a dargyfeirio deunyddiau

Mae safle Llantrisant yn datblygu peilot o siop ailddefnyddio er mwyn gwerthu eitemau sy’n cyrraedd y ganolfan. Bydd y staff yn holi’r bobl yn dod ar y safle os bydd eitemau addas i’w hailddefnyddio ganddynt gan eu didoli a’u gosod ar silffoedd yn yr ystafelloedd o dan y lefel uwch. Bydd pobl yn ymweld â’r safle yn gallu mynd i’r siop a phrynu amrywiaeth o nwyddau, gyda’r arian yn mynd i elusennau lleol ac er helpu i sefydlu siopau tebyg ar safleoedd eraill y sir. 

Yn ogystal, mae’r Cyngor yn cynnal cynllun ailgylchu beiciau a phroject ailgylchu paent ar ei safleoedd ailgylchu. Mae’n adnewyddu beiciau mewn ysgol leol ac yn eu gwerthu ymlaen, tra bod paent heb ei ddefnyddio, sydd fel arall yn cael ei drin fel gwastraff peryglus, yn cael ei gludo i ailbroseswr sy’n ei gymysgu i greu cynnyrch newydd i’w ddefnyddio o fewn y sir.

Enghraifft PDF

Download