Canolfannau ailgylchu gwastraff preswyl sir Ddinbych
Mae’r Glasbrint Casgliadau yn nodi’r angen i drefnu canolfannau ailgylchu gwastraff preswyl gydag arwyddion ac offer da, a staff i helpu cymaint o bobl â phosibl i ailgylchu amrediad eang o ddeunyddiau. Cynlluniwyd canolfannau modern fel un y Rhyl wrth ystyried yr holl nodweddion hynny.
...
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal tair canolfan ailgylchu gwastraff preswyl er mwyn gwasanaethu poblogaeth y sir o oddeutu 95,000. Y safle prysuraf yw canolfan y Rhyl sy’n darparu cyfleusterau ailgylchu ar gyfer dros 20,000 cartref yn y Rhyl a thref Prestatyn. Mae cymunedau oddi ar yr arfordir yn gallu defnyddio dwy ganolfan arall y Cyngor, yn nhrefi Dinbych a Rhuthun.
Ar y cyd, ailgylchodd y canolfannau 88% o’r deunydd a dderbyniwyd yn 2014/15, gan adlewyrchu cynnydd rheolaidd yn eu perfformiad. Yn Ebrill 2015, dechreuodd y Cyngor godi swm ar wahân am godi gwastraff gardd o’r stryd, cam a arweiniodd at gynnydd yn y deunydd a gymrwyd gan y cyhoedd i ganolfannau ailgylchu’r sir.
Adeiladwyd canolfan newydd Marsh Road, y Rhyl, i gymryd lle dwy hen ganolfan, un yn y Rhyl a’r llall ym Mhrestatyn, gan ddarparu cynllun modern yn canolbwyntio ar uchafu ailgylchu.
Cynllun newydd yn fwy hyblyg
Roedd y Cyngor yn awyddus i hwyluso defnydd gan y cyhoedd wrth gynllunio’r ganolfan newydd, gan ei gosod ar ddwy lefel. Gosodwyd ar ffurf trac athletau, gyda’r blychau deunyddiau tu fewn y cylch, a’r sgipiau ar y lefel isaf er mwyn gollwng eitemau mawr iddynt.
Mae datblygu’r diwylliant ailgylchu wedi cael effaith sylweddol ar beth sy’n digwydd i’r gwastraff ar ôl ei adael yn y safleoedd. Maent yn derbyn bron pob math o wastraff, er byddant yn cyfyngu pobl i chwe bag o rwbel, brics, teils a phridd, hyd yn oed rhai o dai preswyl. Bu rhaid ymateb i’r amrediad eang o ddeunyddiau’n cyrraedd y canolfannau, gyda’r cynllun newydd yn darparu mwy o hyblygrwydd.
Arwyddion clir yn cadw pethau’n syml
Athroniaeth y Cyngor yw cadw pethau mor syml â phosibl ar gyfer y trigolion, felly bydd yn ystyried pob arwydd ar ben ei hun er mwyn osgoi cymhlethu pethau i bobl yn ymweld â’r safleoedd.
Pan fydd angen arwydd, defnyddir neges glir WRAP ‘Ailgylchu Nawr’ er mwyn nodi’r deunyddiau i fynd ym mhob blwch. Mae’r Cyngor yn dilyn y gofynion o ran darparu arwyddion dwyieithog, sy’n bwysig iawn yn y trefi gwledig, gyda 42% o boblogaeth Rhuthun yn siarad Cymraeg.
Yn wir, yr unig arwyddion nad ydynt yn statudol neu’n darparu gwybodaeth hanfodol yw rhai’n nodi perfformiad ailgylchu’r safleoedd. Y nod yw cael pobl i ymfalchïo yn y gwaith a chyfraniad y trigolion wrth hysbysu’r ffaith bod ailgylchu wedi codi o oddeutu 70% yn 2009 i bron 90% yn 2015.
Trefn ‘cyfarfod & cyfarch’ yn symbylu’r trigolion
Mae cadw pethau’n syml yn ymestyn i ryngweithio â gweithwyr y Cyngor ar y safle. Wrth gyfarch pobl yn dod ar y safle, bydd y gweithwyr yn cynghori pobl sut i drafod y gwastraff a’i ddidoli’n gywir, ond mae’r drefn honno wedi esblygu dros y blynyddoedd.
Yn y gorffennol, roeddent yn pwysleisio beth oedd disgwyl i bobl wneud ar y safle, gan ddelio gyda thrigolion yn cludo gwastraff preswyl heb ei ddidoli. Ond, erbyn hyn mae pobl wedi hen arfer gyda’r system a’r llifoedd gwastraff ar wahân sy’n golygu bod y staff yn gallu gwneud pethau amgenach, tra hefyd yn taclo pobl fusnes sy’n ceisio gadael gwastraff masnachol.
Er mwyn annog y staff i ryngweithio â’r bobl, mae contractwr y safle hefyd wedi cyflwyno cynllun cymhelliant er mwyn eu symbylu i wella lefelau ailgylchu, llwytho’r deunydd iawn yn y sgipiau a thaclo gwastraff masnachol anghyfreithlon. Mae’r cynllun cymhelliant wedi cael effaith enfawr, gan ostwng y gwastraff gweddilliol yn mynd drwy ganolfannau ailgylchu’r Cyngor oddeutu 50%.
Ailgylchu matresi yn cyrraedd 98%
Adlewyrchir agwedd y Cyngor at drin gwastraff y canolfannau ailgylchu gan y gwaith a wnaed i drin dodrefn a matresi. Cesglir tua 450 tunnell o fatresi yn y canolfannau bob blwyddyn, gan ailgylchu 98%.
Yn dilyn llwyddiant menter i ddatgymalu matresi a ddechreuodd yn 2009, sefydlodd CAD Recycling uned ailgylchu matresi ar ei safle yn nhref Dinbych yn 2012. Yn awr, mae’r safle yn prosesu rhwng 300 a 400 matres y dydd saith diwrnod yr wythnos o bob rhan o ogledd Cymru a rhannau o ogledd orllewin Lloegr.
Deilliodd o’r cynllun cymhelliant a sefydlwyd yn y sir er mwyn gwneud rhai mathau o ailgylchu’n fwy proffidiol iddynt. Nodwyd matresi fel eitemau oedd yn tueddu i fynd i safleoedd tirlenwi er yn dal i gynnwys deunydd o werth sylweddol. Felly, aeth contractwr y cyngor ati i ddatblygu model busnes sydd erbyn hyn yn cynhyrchu refeniw o’r llif gwastraff yma.