Enghraifft

Canolfannau ailgylchu gwastraff preswyl Wrecsam

Mae’r Glasbrint Casgliadau yn nodi’r angen i drefnu canolfannau ailgylchu gwastraff preswyl gydag arwyddion ac offer da, a staff i helpu cymaint o bobl â phosibl i ailgylchu amrediad eang o ddeunyddiau. Cynlluniwyd canolfannau modern fel Lôn Bryn, Wrecsam wrth ystyried yr holl nodweddion hynny.

Troi ‘tomenni’ yn ‘canolfannau ailgylchu’

Turning ‘tips’ into ‘recycling centres’

O’r 20,000 person a holwyd, dim ond hanner dwsin oedd yn gwrthod nodi beth oedd yn eu gwastraff gweddilliol

Mae canolfannau ailgylchu gwastraff preswyl yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu’r cyhoedd i reoli gwastraff nad oes modd ei gasglu gan y gwasanaethau stryd. Wrth reoli canolfannau ailgylchu’n effeithiol, nid oes angen anfon llawer o wastraff i safleoedd tirlenwi neu unedau llosgi.

Dros y blynyddoedd diwethaf, arweiniodd penderfyniad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’i gontractwyr FCC Environment i newid yr agwedd at ganolfannau ailgylchu wrth godi cyfradd ailgylchu’r tair canolfan i dros 80%, weithiau mor uchel â 90%, o bopeth a gymrir i mewn gan y 130,000 yn byw yn y sir. Mae hynny wedi bod yn allweddol wrth gynyddu cyfradd ailgylchu Wrecsam i 62.3% yn 2015/16.

Mae’r Cyngor wedi cymell y trigolion i stopio edrych ar y safleoedd fel ‘tomenni’ a’u hystyried fel canolfannau ailgylchu. Wrth archwilio’r gwastraff gweddilliol yn dod ar y safleoedd a rhoi cymhellion i’r staff, mae’r cyhoedd a’r gweithwyr wedi ymateb yn dda i’r syniad, gan godi’r gyfradd ailgylchu o lai na 40% yn 2009 i’r lefelau presennol.

Taclo gwastraff gweddilliol

Clamping down on residual waste

Ger gatiau’r canolfannau, bydd y staff yn ‘cyfafod & cyfarch’ pobl er mwyn helpu i ddidoli deunydd y gellir ailgylchu

Elfen fawr o brofiad y trigolion yw rhyngweithio â’r staff, felly penderfynodd y Cyngor byddai angen i’r gweithwyr wneud mwy na chyfeirio pobl i’r cyfeiriad iawn. Yn awr mae’r broses gyfan yn seiledig ar y ‘cyfarfod & cyfarch’ cychwynnol, gyda’r staff yn gwneud mwy i ganfod pa wastraff bydd y trigolion yn cludo i’r canolfannau.

Pan fydd pobl yn dod i mewn, byddant yn holi beth maent yn bwriadu rhoi yn y sgip gwastraff gweddilliol ac os oes deunydd ailgylchu y gellid tynnu allan. Mae safle sgrinio gwastraff bag du tu ôl y sgip gyda blychau ychwanegol ar gyfer deunydd ailgylchu sy’n gymysg â’r gwastraff cyffredinol. Erbyn hyn, mae’r rhan helaeth o’r staff yn trafod gydag ymwelwyr wrth iddynt ddod ar y safle, gyda swyddog arall yn sicrhau bod y deunydd iawn yn mynd i’r sgipiau ac yn monitro’r peiriannau cywasgu.

O’r 20,000 person a holwyd, dim ond hanner dwsin oedd wedi gwrthod nodi beth oedd yn eu gwastraff gweddilliol, gyda’r staff yn cymell pobl i arbed amser wrth ddidoli deunydd ailgylchu yn eu cartrefi.

Symbylu gweithwyr

Getting staff involved

Symbylu’r staff a hwyluso defnyddio’r canolfannau wedi dyblu lefelau ailgylchu canolfannau Wrecsam dros bum mlynedd

Mae rhoi pwyslais ar gael staff i ryngweithio â’r cyhoedd yn y canolfannau ailgylchu wedi symbylu’r gweithwyr i gefnogi’r strategaeth, a’r Cyngor wedi helpu hynny wrth ddarparu mwy o hyfforddiant a gwybodaeth.

Bydd pob aelod staff yn dilyn cwrs NVQ ac yn cael hyfforddiant mewn materion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch. Pan fydd tunellau ar y safle yn amrywio, bydd staff yn gallu edrych ar y taenlenni wythnosol er mwyn nodi’r gwahaniaethau ac ystyried ble mae deunydd ailgylchu yn cyrraedd y llif gwastraff gweddilliol. Bydd hynny’n hwyluso gwneud gwelliannau neu nodi mannau halogi llifoedd gwastraff.

Mae cynllun cymhelliant hefyd yn cymell y gweithwyr i fonitro’r gwastraff yn fanwl, gyda phob gweithiwr yn derbyn bonws yn seiliedig ar gyfradd ailgylchu ei safle. Ar ôl cyflwyno’r cynllun, gwelodd y Cyngor gynnydd o 10% mewn cyfraddau ailgylchu ei ganolfannau gwastraff.

Hwyluso ailgylchu

Making it easier to recycle

Cynllun cymhelliant staff wedi arwain at gynnydd o 10% mewn cyfraddau ailgylchu’r canolfannau 

Yn awr mae’r Cyngor wedi ailddatblygu pob safle er mwyn hwyluso defnydd gan y trigolion. Elfen allweddol yw’r cynllun newydd, gyda baeau mawr ar gyfer deunyddiau cyffredin ar ddwy lefel er mwyn hwyluso gollwng eitemau mawr mewn sgipiau o dan lefel y stryd, heb ddringo grisiau. 

Mae hynny’n helpu pobl i ailgylchu a lleihau risgiau wrth godi eitemau trwm. Hanerwyd nifer y sgipiau gwastraff gweddilliol ar y safleoedd, o bedwar i ddau. Un newid pwysig arall oedd gosod y sgipiau gweddilliol ar flaen y safle er mwyn helpu pobl i sgrinio’r gwastraff cyffredinol, cyn gwaredu deunydd ailgylchu. Yn ogystal, mae gosod arwyddion clir yn bwysig er mwyn helpu pobl i symud o gwmpas y safleoedd a nodi beth sy’n mynd i’r gwahanol sgipiau. Mae rhif ar bob bae, gydag arwyddion Cymraeg a Saesneg.

Dulliau newydd o ddefnyddio gwastraff

New ways to make waste useful

Cynllun ar ddwy lefel yn osgoi gorfod dringo grisiau i roi pethau mewn sgipiau, sy’n gostwng risgiau ac yn hwyluso ailgylchu

Ar ôl gostwng y gwastraff gweddilliol yn cyrraedd ei ganolfannau ailgylchu, gweithiodd y Cyngor yn galed i gael hyd i gwmnïau i gymryd y deunyddiau sy’n anos eu hailgylchu. Er enghraifft, partneriaeth gyda chwmni ailgylchu carpedi sydd wedi codi cyfradd ailgylchu canolfannau’r sir oddeutu 3%. Cymrir carpedi gwastraff i’r cwmni, sy’n ei garpio a’i gymysgu gyda thywod er mwyn creu deunydd llawr ar gyfer canolfannau marchogaeth.

Yn ogystal, defnyddiwyd y canolfannau i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ailgylchu a’r hierarchaeth wastraff. Bob blwyddyn, bydd y trigolion yn cymryd hyd at 1,000 tunnell o wrtaith am ddim o’r safleoedd, wedi’i gynhyrchu o wastraff bwyd a gardd a gesglir gan y Cyngor a’i brosesu yn uned arbennig y sir.

Ar ben hynny, mae’r Cyngor wedi datblygu siop ailddefnyddio ar ei safle Lôn Bryn, yn gwerthu eitemau a gymrir yno er mwyn codi arian ar gyfer ysgol plant gydag anawsterau dysgu yn yr ardal.

Enghraifft PDF

Download