Enghraifft

Casglu gwastraff bwyd ym Merthyr Tudful

Mae’r Glasbrint Casgliadau yn awgrymu bod casglu gwastraff bwyd ar wahân i wastraff gardiau yn cymell trigolion i wastraffu llai o fwyd ac ailgylchu unrhyw wastraff byddant yn creu.

Ers dod yn un o’r cynghorau cyntaf i fabwysiadu trefn o’r fath, mae Merthyr wedi gweld ei fod hefyd yn gallu arbed arian a throi gwastraff yn adnoddau ar gyfer awdurdodau lleol.

Cegin i’r stryd

From kitchen to the kerbside

Bagiau biodiraddadwy am ddim wedi cynyddu cyfranogiad i dros 60%

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi casglu gwastraff bwyd ar wahân ers 2006 fel un o’r awdurdodau lleol cyntaf i gyflwyno’r gwasanaeth. Erbyn hyn mae’n gwasanaethu pob un o’r 25,000 cartref yn y sir. Yn ôl dadansoddiad gwastraff trefol a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2009 roedd oddeutu 26% (pwysau) o’r gwastraff preswyl gweddilliol yn cael ei gasglu yn wastraff bwyd.

Rhoir blwch glas 5 litr i drigolion Merthyr ar gyfer y gegin a blwch glas 23 litr i’w osod tu allan, ar gyfer yr holl wastraff bwyd. Bydd y Cyngor yn ei wacau bob wythnos fel rhan o wasanaeth sydd hefyd yn casglu deunydd ailgylchu sych fel papur, plastig, gwydr a metel.

Mae’r gwasanaeth cynhwysfawr yn gallu casglu 90% o’r deunyddiau bydd trigolion y sir yn gwaredu.

O ganlyniad, ailgylchodd Merthyr 60.9% yn 2015/16, gan guro’r targed statudol o 58%.

Cysylltu & cyfranogi

Engagement and participation

Newidiadau i’r gwasanaeth wedi helpu Merthyr i arbed £1.038 miliwn yn 2015

Cyn Ebrill 2015, gofynnwyd y trigolion i lapio bwyd mewn papur neu brynu bagiau biodiraddadwy o’r Cyngor.

Roedd archwiliadau drws i ddrws a dadansoddi data o arolygon wedi awgrymu mai un ffactor pwysig yn rhwystro pobl rhag defnyddio’r gwasanaeth gwastraff bwyd oedd mynnu bod y trigolion yn prynu bagiau ar gyfer y blychau.

Ar ôl dadansoddi’r costau gyda’r Rhaglen Newid Gydweithredol, penderfynwyd darparu’r bagiau am ddim, gan gostio £65,000 am y ddwy flynedd gyntaf. Y canlyniad oedd cynyddu cyfranogiad yn y cynllun o 36% i 60%.

Ers dechrau dosbarthu’r bagiau am ddim, ar y cyd â gostwng maint y biniau gwastraff gweddilliol, mae lefelau gwastraff gweddilliol wedi gostwng tua 13.5% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Trawsnewid y gwasanaeth

Separate food waste collection in Merthyr Tydfil

Casglu gwastraff bwyd gyda deunydd ailgylchu sych, fel papur, plastig, metel a gwydr

Mae effaith ailgylchu gwastraff bwyd ar wahân yn dibynnu ar newidiadau i’r gwasanaeth rheoli gwastraff cyfan. 

Yn Ionawr 2015, cyflwynodd y Cyngor finiau gweddilliol maint 140 litr i gymryd lle’r rhai 240 litr. Fel rhan o’r newid, argraffwyd ‘dim gwastraff bwyd’ ar y cloriau, a brofodd yn neges effeithiol iawn.

Ym Mehefin 2015, uwchraddiodd ei gyfundrefn ailgylchu, gan newid o system deunydd cymysg i ddidoli deunyddiau ger y stryd. Fel rhan o’r newid, trefnodd fflyd newydd o gerbydau casglu arbenigol i gasglu gwastraff bwyd ar yr un pryd â’r deunydd ailgylchu sych (ble gynt casglwyd gyda’r gwastraff gardd).

Mae’r cerbydau un pas newydd yn cynnwys pum adran sy’n hwyluso didoli papur & card, gwydr, caniau & plastig ger y cerbyd, yn ogystal â bocsys 23 litr ar y naill ochr ar gyfer gwastraff bwyd. Yn sgil y newidiadau i’r gwasanaeth, rhagwelir bydd cyfradd ailgylchu Merthyr yn dringo dros 65% yn 2016/17.

Gostwng costau gwastraff

Cutting the cost of waste

Casglu gwastraff bwyd gyda deunydd ailgylchu sych wedi gostwng allyriadau CO2

Mae’r casgliad un pas newydd wedi gostwng nifer y cerbydau ailgylchu ar y ffyrdd, gan ostwng allyriadau CO2 a chostau tanwydd yn y broses. Yn ôl y Cyngor, bydd y mesurau hyn yn arbed tua £370,000 ar ei gostau ailgylchu a thrafnidiaeth rhwng 2015 a 2018.

Yn gyffredinol, wrth wella lefelau casglu a chyfranogi, lleihau’r biniau gwastraff gweddilliol a chasglu’r holl ddeunydd ailgylchu mewn un cerbyd, rhagwelir bydd y Cyngor yn arbed £1.038 miliwn yn 2015/16.

Elfen allweddol o’r arbedion yn deillio o’r newidiadau yw gostwng y costau gwaredu gwastraff, sef costau uniongyrchol a’r trethi tirlenwi. Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn rhagweld bydd yn arbed £296,000 yn 2016/17 a £290,000 yn 2017/18. Mae effaith y mesurau hefyd wedi arwain at ostwng lefelau gwastraff tua 600 tunnell bob chwarter.

Treulio anaerobig yn cynhyrchu ynni

Energy from anaerobic digestion

Rhyddhau blychau bwyd o’r cerbyd, gyda fforch godi yn rhoi’r deunydd mewn sgip ar gyfer yr uned treulio anaerobig

Pan fydd y cerbyd ailgylchu’n cyrraedd y depo, bydd fforch godi yn dadlwytho’r blychau gwastraff bwyd ac yn rhoi’r deunydd mewn sgip i’w gludo i’r cwmni ailbrosesu. Ar y cyd ag awdurdodau Rhondda Cynon Taf a Dinas Casnewydd, mae Merthyr yn rhan o fenter ‘Cwm Yfory’ sydd wedi rhoi cymorth strategol i ddatblygu systemau’r cynghorau. 

Yn 2013, cyhoeddodd y grŵp ei fod wedi trefnu contract i drin gwastraff bwyd mewn uned treulio anaerobig Biogen, Bryn Pica, 15 munud mewn cerbyd o ddepo Merthyr, Pentrebach. Troir gwastraff y cynghorau i ynni adnewyddadwy a bio-gwrtaith yn llawn maetholion. Defnyddir methan a gynhyrchir o’r gwastraff bwyd i gynnal peiriant gwres & pŵer cyfun 1.2 megawat ar y safle. Yna trosglwyddir y trydan a gynhyrchir i’r grid cenedlaethol, gyda’r potensial i wasanaethu 3,000 cartref y flwyddyn.

Enghraifft PDF

Download