
Gostwng gwastraff gweddilliol yn sir Fynwy
Mae cyfyngu’r gwastraff gweddilliol a gesglir wedi cynyddu’r deunyddiau a roir mewn bagiau ailgylchu, gan helpu i godi cyfraddau ailgylchu a gostwng lefelau gwastraff cyffredinol.
Yn ei dro mae hynny wedi helpu Cyngor Sir Fynwy i gyrraedd targedau a gostwng costau casglu a thirlenwi.
Cyfyngu gwastraff gweddilliol

Cyfyngu casgliadau gwastraff gweddilliol i ddwy fag 80 litr bob pythefnos
Fel rhan o strategaeth dim gwastraff Llywodraeth Cymru, pennwyd targedau ailgylchu heriol ar gyfer awdurdodau lleol dros y 10 blynedd nesaf - gan godi i 70% ailgylchu o wastraff preswyl yn 2025.
Un mesur allweddol i helpu hynny yw cyfyngu faint o wastraff bydd cartrefi’n gallu gwaredu. Mae cyfyngu cynhwysedd y bin gwastraff gweddilliol yn cymell pobl i wneud mwy o ddefnydd o’u gwasanaeth ailgylchu.
Dechreuodd Cyngor Sir Fynwy wrth gyfyngu cartrefi i ddwy fag 80 litr o wastraff gweddilliol bob pythefnos ym Mehefin 2013 er mwyn codi ei gyfradd ailgylchu a gostwng costau cyffredinol y gwasanaeth rheoli gwastraff pan oedd o dan bwysau i ostwng costau ar draws ei wasanaethau.
Ar ôl cyflwyno’r cynllun newydd i’r 42,000 cartref yn y sir ar yr un pryd, cododd cyfraddau ailgylchu sir Fynwy o 55.5% yn 2012/13 i 61.9% yn 2014/15.
Arfau iawn ar gyfer y gwaith

Gwastraff gweddilliol o bob cartref wedi gostwng o 5.2 i 2.3 cilogram yr wythnos
Er mwyn helpu’r trigolion i ostwng eu gwastraff gweddilliol yn unol â’r terfynau newydd, darparodd y Cyngor gyflenwad blwyddyn o fagiau llwyd ar gyfer pob cartref. Bydd staff casglu ond yn cludo gwastraff gweddilliol mewn bagiau llwyd y Cyngor, sy’n golygu bod y trigolion yn deall bydd defnyddio gormod o fagiau’n arwain at redeg allan o fagiau cyn diwedd y flwyddyn.
Yn ogystal, rhoddwyd bag hesian i bob cartref fel pecyn cychwynnol, yn cynnwys rholiau o fagiau ailgylchu coch & porffor, bagiau gwastraff bwyd a thaflen yn esbonio’r holl newidiadau i’r gwasanaeth ac yn atgoffa pobl o beth oedd modd ailgylchu a ble byddai’n cael ei gasglu.
Yn ogystal dosbarthwyd taflenni’n esbonio’r angen i ailgylchu mwy drwy’r papurau newydd, hysbysebion ar fysys, trenau a gwasanaethau newyddion lleol, a sioeau teithiol. O ganlyniad, ar ôl dwy flynedd, roedd y gwastraff gweddilliol a gasglwyd per cartref wedi gostwng 56%, o 5.2 i 2.3 cilogram yr wythnos.
Gwella’r gwasanaeth ailgylchu

Bagiau deunydd ailgylchu sych a gwastraff bwyd am ddim mewn canolfannau cymunedol a siopau
Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth ailgylchu, gyda dim cyfyngiad ar faint o ddeunydd ailgylchu y gellid casglu bob wythnos. Er mwyn cefnogi hynny, darparwyd bagiau deunydd ailgylchu sych a gwastraff bwyd am ddim mewn canolfannau cymunedol a siopau.
Yn achos teuluoedd mawr, ble roedd cyfyngu’r gwastraff gweddilliol yn broblem, roedd modd gwneud cais i’r Cyngor am fag ychwanegol. Cyn caniatáu hynny, byddai swyddogion gwastraff yn ymweld â’r cartref er mwyn sicrhau bod y teulu’n ailgylchu cymaint o ddeunydd â phosibl. Yn ogystal, cyflwynwyd gwasanaeth casglu cewynnau a gwastraff hylendid oedolion, er mwyn eu cadw allan o’r gwastraff gweddilliol.
Gyda’r gwastraff gweddilliol yn gostwng mor gyflym, cwblhawyd y llwybrau casglu’n gyflymach, gyda’r casgliadau ailgylchu’n cymryd yn hirach. O ganlyniad addaswyd y llwybrau er mwyn cydbwyso gwaith y criwiau gweithwyr.
Gostwng gwastraff gweddilliol

Yn dilyn y mesurau newydd gwastraff gweddilliol, yn cynnwys canolfannau gwastraff preswyl, wedi gostwng 15%
Ar ôl cyfyngu’r casgliadau gwastraff gweddilliol, hanerwyd y tunellau a gasglwyd ar y stryd, gyda’r deunydd ailgylchu’n cynyddu ar yr un pryd: cododd o 6.6 cilogram per cartref yr wythnos i 8.4 cilogram, gan wthio’r gyfradd ailgylchu i 63%.
Cyflawnwyd hynny ar adeg pan oedd y Cyngor hefyd wedi dechrau codi swm am gasglu gwastraff gardd ar wahân, sydd wedi gostwng y tunellau ailgylchu gwastraff gwyrdd. Gwelwyd cynnydd o 30% yn y gwastraff a gymrwyd i bedair canolfan gwastraff preswyl y sir, gan nad oes cyfyngiad ar faint mae trigolion yn gallu cludo yno.
Fodd bynnag, roedd y cyfanswm gwastraff gweddilliol a gasglwyd gan y Cyngor yn 2013/14, drwy gasgliadau stryd a chanolfannau gwastraff yn 17,030 tunnell - sef 3,016 tunnell a 15% yn llai na 2012/13.
Buddion ariannol clir

Cyfyngu casgliadau gwastraff gweddilliol wedi helpu i ostwng costau trin gwastraff y Cyngor bron £500,000 y flwyddyn
Mae gostwng y gwastraff gweddilliol wedi darparu buddion ariannol sylweddol.
O fewn blwyddyn o gyflwyno’r gwasanaeth newydd, roedd costau blynyddol anfon gwastraff gweddilliol i’w drin yn uned Prosiect Gwyrdd awdurdodau lleol Caerdydd, Casnewydd, sir Fynwy, Bro Morgannwg & Caerffili wedi gostwng dros £335,000 i £2,263,000, swm a ostyngodd £30,000 arall yn 2014/15.
Mae’r ffioedd llawer is am anfon deunyddiau i’w hailgylchu yn golygu, er bod y tunellau deunydd ailgylchu sych a bwyd wedi codi 27%, bod y costau dim ond wedi codi £40,000 (9.7%) yn y flwyddyn gyntaf.
Yn y ddwy flynedd yn dilyn y newidiadau, gostyngodd costau trin pob llif gwastraff y Cyngor bron £500,000 o £3.44 miliwn i £2.98 miliwn. Costau cyffredinol darparu’r bagiau llwyd a’r ymgyrch gyfathrebu oedd £170,000.