Gwneud mwy gyda llai ar gerbydau un pas Ynys Môn
Mae’r Glasbrint Casgliadau yn argymell defnyddio’r genhedlaeth ddiweddaraf o gerbydau arbenigol i gasglu deunyddiau ailgylchu ger y stryd.
Defnyddir dau gerbyd yn lle un o’r cerbydau casglu traddodiadol (RCV). Maent yn costio llai na hanner pris cyfalaf y rhan helaeth o RCVs ac ar gyfartaledd byddant yn defnyddio llai na hanner y tanwydd.
A comprehensive recycling service

Rôl allweddol cartrefi wrth ddidoli deunydd ailgylchu mewn blychau gwahanol
Yn yr hinsawdd ariannol bresennol, gofynnwyd awdurdodau lleol i barhau i wella perfformiad ailgylchu a gostwng costau ar yr un pryd.
Cyngor Sir Ynys Môn, mewn partneriaeth gyda Biffa, yw un o sawl cyngor Cymreig sydd wedi cyflwyno cerbydau adennill adnoddau un pas (RRV) er mwyn lleihau costau a gwella gwasanaeth. Mae hynny’n galluogi’r Cyngor i gasglu amrediad eang o ddeunyddiau ar yr un pryd:
• Gwastraff bwyd - trigolion yn cael blwch 5 litr ar gyfer y gegin a blwch 23 litr i’w gadw tu allan y cartref
• Blwch coch 40 litr ar gyfer papur & card
• Blwch glas 55 litr ar gyfer poteli plastig, caniau cymysg a gwydr
• Eitemau arbennig fel batris, ffonau symudol & tecstilau
Gwasanaeth wythnosol yn golygu bod y blychau hyn yn gallu cludo mwy na’r gofod yn y bin gwastraff gweddilliol, sef 240 litr a gesglir bob pythefnos.
Yn 2015/16 ailgylchodd Ynys Môn 59.5% o’i wastraff.
Cerbydau newydd yn gwella effeithlonrwydd

Casglu gwastraff bwyd gyda deunydd ailgylchu sych, fel papur, plastig, metel a gwydr
Fel rhan o’r newid darparodd contractwr y cyngor Biffa fflyd newydd o gerbydau Kerbsort adennill adnoddau un pas (RRVs), gyda gyrrwr ac un swyddog casglu.
Cyn hynny, defnyddiwyd dau gerbyd: un ailgylchu a’r llall ar gyfer gwastraff bwyd. O ganlyniad gostyngwyd nifer y cerbydau o 15 to 10, gyda’r cerbydau’n seiliedig ar chassis 12 tunnell DAF.
Mae dau o’r cerbydau’n fyrrach na’r gweddill er mwyn negodi strydoedd cul.
Yn ogystal â gwella effeithlonrwydd casgliadau wrth gludo mwy o ddeunyddiau, mae’r newid wedi gostwng nifer y milltiroedd a defnydd disel.
Amcangyfrifir bydd y cerbydau newydd yn gostwng milltiroedd gweithredu oddeutu 80,000 cilomedr y flwyddyn, tra’n arbed 15,000 litr o ddisel a gostwng allyriadau CO2 bron 50 tunnell.
Dywed y contractwr bod y gweithwyr yn dioddef llai o anafiadau oherwydd eu bod yn didoli’r holl ddeunyddiau ar yr un uchder ar y cerbyd.
Didoli ar y stryd

Y cerbyd yn gwthio poteli plastig a chaniau i mewn i adran ar y top
Mae’r cerbydau newydd yn cynnwys pum adran y gellir agor o’r ddwy ochr, gan hwyluso storio deunydd.
Tu ôl cab y gyrrwr mae adran ar gyfer deunyddiau ysgafnach, caniau cymysg a photeli plastig. Pan fydd yr adran yn llawn hyd at lefel y gweithwyr, gellir cau’r drysau ar yr ochr, gyda mecanwaith siswrn yn gwthio’r plastig a’r caniau i mewn i’r gofod yn y to.
Tu ôl yr adran caniau & plastig, mae un ar gyfer papur, un arall ar gyfer gwydr a dau flwch bwyd symudol - un ar naill ochr y cerbyd - ar gyfer gwastraff cegin mewn bagiau biodiraddadwy.
Yna, mae adrannau eraill ar gyfer deunyddiau fel dillad, batris a ffonau symudol. Yn olaf, adran fawr ar gyfer cardbord ar gefn y cerbyd, yn cynnwys mecanwaith cywasgu er mwyn gwneud defnydd effeithiol o’r holl gerbyd.
Gostwng costau ailgylchu

Casglu gwastraff gweddilliol yn llai aml yn cymell pobl i ailgylchu mwy
Mae newid y drefn wedi arbed dros £200,000 y flwyddyn i drethdalwyr Ynys Môn.
Gyda tharged statudol i ailgylchu 70% o wastraff trefol erbyn 2024/25, mae Ynys Môn am barhau i wella gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, gan alw ar yr RRVs i gymryd hyd yn oed mwy o ddeunyddiau.
Ym mis Hydref 2016, bydd y Cyngor yn dechrau casglu gwastraff gweddilliol bob tair wythnos. Ar yr un pryd bydd yn cychwyn casglu plastig cymysg fel potiau yogwrt a blychau menyn fel rhan o’r gwasanaeth ailgylchu. Rhagwelir bydd hyn yn cynyddu lefelau ailgylchu wrth gasglu mwy ac yn tynnu deunyddiau ailgylchu allan o’r llif gwastraff gweddilliol.
Yn ogystal â chasglu mwy o blastig, mae’r Cyngor yn gobeithio bydd y newid yn cymell pobl i ddidoli mwy o wastraff bwyd ac yn rhagweld bydd yn arwain at arbedion pellach o £108,000 y flwyddyn mewn costau gwaredu gwastraff.
Deunydd yn barod i’w ailbrosesu

Tynnu blychau bwyd o’r cerbyd a’u rhoi mewn sgip, cyn mynd i’r uned treulio anaerobig
Pan fydd y cerbydau’n mynd i’r depo i’w dadlwytho, bydd y gweithwyr yn dechrau wrth dynnu tecstilau, batris a ffonau symudol.
Yna byddant yn tynnu’r blychau bwyd o’r cerbyd, gyda cherbyd ‘fforch godi’ yn rhoi’r deunydd mewn sgip yn barod i’w gludo i uned treulio anaerobig.
Wedyn bydd y cerbydau’n mynd i fae arall er mwyn tynnu gwydr o’r ddwy ochr ac yna bae cardbord.
Tynnir plastig a chaniau o’r to ac yn olaf bydd y gweithwyr yn agor y drysau ar ddwy ochr y cerbyd er mwyn gwacau papur, cyn dychwelyd y blychau bwyd i’r cerbyd yn barod i adael y safle.
Ar ôl tynnu’r holl ddeunyddiau o’r cerbyd, bydd y gweithwyr yn didoli’r poteli plastig a’r caniau alwminiwm a dur. Rhoir yr holl ddeunyddiau eraill mewn pecynnau yn y mannau cymwys cyn cael eu cludo i gwmnïau ailbrosesu gan eu bod eisoes wedi’u didoli ar y cerbyd.