Partneriaeth trydydd sector Sir Benfro
Mae ‘gwastraff’ cartrefi’n cynnwys deunyddiau sydd dal yn werthfawr a defnyddiol, yn benodol eitemau mawr fel dodrefn ac eitemau trydanol. Gall fod yn anodd i bobl waredu gwastraff swmpus fel hyn mewn modd sy’n cynna ei werth cynhenid.
Mae’r Glasbrint Casgliadau yn galw ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau i gasglu’r fath ddeunyddiau ac uchafu eu gwerth. Mae partneriaethau gyda mentrau cymdeithasol fel FRAME Sir Benfro yn cyflawni hynny ac yn darparu buddion ehangach i’r gymuned.
Trin gwastraff yn effeithiol

Gwasanaeth gwastraff swmpus FRAME wedi casglu 505 tunnell yn 2014/15
Mae gwastraff swmpus fel dodrefn ac offer trydanol yn cynrychioli heriau sylweddol, wrth achosi problemau wrth geisio eu symud a’r ffaith eu bod yn gallu cynnwys deunyddiau gwerthfawr. O ganlyniad, rhaid dilyn trefniadau gwahanol i wastraff arall, yn aml gan gorff ailddefnyddio arbenigol.
Sefydlwyd Pembrokeshire FRAME fel menter gymdeithasol sydd wedi cyfuno buddion amgylcheddol ac ychwanegu gwerth cymdeithasol am dros 20 blynedd. Mae’n gwneud hynny wrth ddarparu gwaith ar gyfer pobl gyda phroblemau iechyd, a dodrefn a nwyddau gwyn rhad ar gyfer pobl ar incwm isel. Mae’r corff yn casglu eitemau diangen o gartrefi’r sir yn ei rôl fel elusen ac fel corff o dan gontract gyda Chyngor Sir Benfro, gan eu hadnewyddu os bydd angen cyn eu gwerthu.
Mae FRAME yn cynnal tri depo ailddefnyddio a chanolfan adnoddau dinesig yn Hwlffordd sy’n ailgylchu eitemau fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi. Yn ogystal, mae’n rheoli 67 acer o goetiroedd cynaladwy ger Scolton ble mae’n torri coed i’w gwerthu ar y farchnad.
Cydweithio mewn partneriaeth

Yn 2014/15 darparodd FRAME brofiad gwaith a/neu hyfforddiant ar gyfer 206 person
Mae gan FRAME gontract gyda Chyngor Sir Benfro i gasglu eitemau preswyl swmpus ar draws y sir. Dechreuodd y contract chwe blynedd presennol yn Ebrill 2015. Mae’n werth tua £158,000 y flwyddyn ond bydd yn codi’n fuan yn unol â chwyddiant a’r cynnydd yn yr isafswm cyflog.
Codir £40 am gasglu hyd at 10 eitem; cododd y swm yn ddiweddar o £22.50. Noddir gweddill y costau, sef oddeutu £15.30, gan y Cyngor. Bydd FRAME yn cyfarfod y Cyngor bob mis gan ddarparu adroddiad wythnosol o’r deunydd a gasglwyd, canrannau dargyfeiriwyd o safleoedd tirlenwi a chyrchfannau ailgylchu.
Ar ben hynny mae FRAME yn cynnal cytundeb lefel gwasanaeth gyda thîm anawsterau dysgu cymunedol y Cyngor er mwyn rhoi cyfleoedd i unigolion gydag anawsterau dysgu neu broblemau iechyd meddwl i weithio a dysgu yn y storfeydd ailddefnyddio. Ac mae ganddo gontract anffurfiol di-dâl gyda thîm iechyd meddwl cymunedol y Cyngor er mwyn darparu cyfleoedd gwaith ar gyfer ei gleientau.
Gostwng costau gwastraff

Yn 2014/15 casglodd FRAME dros 2091 tunnell o wastraff preswyl, gan ailgylchu neu ailddefnyddio 83% ohono
Bydd FRAME yn delio’n bennaf gydag eitemau preswyl, gyda faniau’r elusen yn casglu llawer o’r nwyddau gan bobl sy’n rhoi eitemau i’w hailddefnyddio neu wrth glirio cartrefi, sy’n deillio o gysylltiadau da gyda gwerthwyr tai lleol. Casglwyd oddeutu 505 tunnell gan y gwasanaeth deunydd swmpus yn 2014/15, gan ailgylchu neu ailddefnyddio 97% ohono.
Yn yr un flwyddyn, ailgylchwyd dros 11,000 matres a gasglwyd gan FRAME ar gyfer yr awdurdod lleol. Ar ben hynny, casglwyd dros 33 tunnell o ddeunyddiau i’w hailddefnyddio o ganolfannau casglu dinesig yn y sir. Rhoir eitemau addas i’w gwerthu yn y siop, ond yn achos pethau anaddas, bydd yn ailgylchu cymaint o’r deunyddiau â phosibl.
Bydd yn adnewyddu eitemau trydanol fel cwcerau, oergelloedd a rhewgelloedd er mwyn eu gwerthu. Yn achos byrddau sglodion o ddodrefn nad oes modd eu hailddefnyddio, bydd yn eu trosglwyddo i ailbroseswyr er cynhyrchu tanwydd.
Gwerth uwch

Adnewyddu hen ddodrefn diangen
Erbyn hyn mae FRAME yn cynnal sawl project a ddyfeisiwyd er mwyn cynyddu ailddefnyddio dodrefn. Cesglir dodrefn mewn cyflwr gwael a’i gymryd i amryw weithdy i’w adnewyddu, gydag arbenigwyr clustogwaith yn adfer cadeiriau eistedd a bwyta.
Bydd yn adnewyddu’r sbwng ac yn rhoi ffabrig newydd ar y dodrefn, gyda’r elusen yn ei brynu ar ddisgownt. Yna bydd yn gwerthu’r dodrefn ar newydd wedd yn ei siop.
Bydd yn ceisio creu dodrefn ‘shabby chic’ pan fydd eitemau angen tipyn o waith arnynt, gan eu trin gyda phaent ‘gwyrdd’ bydd hefyd yn prynu ar ddisgownt.
Mae’r gwaith wedi profi mor boblogaidd fel bod y corff yn awr yn derbyn comisiynau i baentio dodrefn pobl leol! Yn ogystal, bydd FRAME yn derbyn comisiynau i greu dodrefn newydd o bren wedi’i ailgylchu. Yn 2014/15 cododd FRAME £302,624.63 wrth werthu dodrefn ail-law.
Buddion cymdeithasol

Yn 2014/15 cododd FRAME dros £300,000 wrth werthu dodrefn ail-law
Darparu hyfforddiant adnewyddu dodrefn yw un ffordd bydd FRAME yn helpu unigolion bregus. Bydd hefyd yn cael gwirfoddolwyr i helpu i reoli coetiroedd, casglu a dosbarthu dodrefn a gwasanaethu yn y siop. Derbyniodd 206 person gyfleoedd gwaith yn 2014/15, gyda 77 yn dilyn cyrsiau hyfforddi ardystiedig yn yr un flwyddyn er mwyn datblygu gwahanol sgiliau. Ar hyn o bryd, mae 53% o staff FRAME yn anabl neu’n destun anfantais yn y gweithle.
Yn ogystal, mae FRAME yn cefnogi cymdeithas wrth ddarparu dodrefn fforddiadwy, gyda phensiynwyr a phobl mewn angen yn cael disgownt ar eitemau yn y siop. Bydd rhai a gyfeirir gan asiantaethau statudol yn derbyn yr hyn sydd angen yn ddi-dâl, sy’n gallu bod yn ddodrefn ar gyfer cartref cyfan.
Yn 2014/15, ynghyd â dargyfeirio 1736 tunnell o wastraff swmpus o safleoedd tirlenwi, darparodd FRAME gymorth ar gyfer dros 17 teulu mewn argyfwng a rhoddodd ddisgownt gwerth bron £8,000 i 607 teulu.