System ailgylchu Trolibocs
Mae didoli ger y stryd yn hwyluso casglu amrediad eang o ddeunyddiau ailgylchu, gyda datblygiadau diweddar yn helpu i gasglu deunyddiau ailgylchu o safon. Wrth ddefnyddio system o flychau mewn ffrâm, mae Cyngor Conwy wedi cynyddu ei gyfradd ailgylchu.
Dull ailgylchu newydd
Y dull mwyaf dibynadwy o gael deunyddiau ailgylchu safon uchel yw casglu deunyddiau fel papur a gwydr ar wahân ger y ffordd. Er mwyn gwneud hynny’n effeithlon, mae Cyngor Conwy wedi arloesi wrth ddarparu system o flychau stacio ar gyfer y trigolion er mwyn casglu’r rhan helaeth o’u deunyddiau ailgylchu.
Cynhaliodd y Cyngor brofion yn 2013 o wahanol fersiynau o’r system stacio, gan ganolbwyntio ar hwyluso defnydd gan y trigolion a chasglu deunydd ailgylchu o safon uchel. Nod arall oedd cyfyngu maint y system a’i chadw mor daclus â phosibl.
Cyflwynwyd y cynllun terfynol o dri blwch ar droli metel o fis Tachwedd 2014, gyda’r enw Trolibocs yn gweithio yn y ddwy iaith. Bydd cerbydau RRV y Cyngor yn galw heibio i wacau’r Trolibocs bob wythnos, gan gasglu gwastraff bwyd ar yr un pryd. Rhan o system ailgylchu gynhwysfawr sydd hefyd yn casglu gwastraff gardd, eitemau trydanol a thecstilau.
System stacio
System Trolibocs Conwy yn cynnwys: blwch 45 litr ar y top - papur & card; blwch canol 55 litr - poteli & plastig, cartonau & caniau diod, i’w didoli yn y depo; a blwch gwaelod 55 litr - gwydr, a ddidolir ger y ffordd. Mewn rhai awdurdodau lleol sy’n defnyddio Trolibocs, cynyddwyd y blwch canol i 70 litr er cludo mwy o ddeunyddiau plastig.
Cynlluniwyd y system er hwyluso defnydd gan drigolion a gweithwyr casglu, gyda’r blwch trymaf (papur & card, sef 55% o’r deunydd sych) ar y top er gostwng y gwaith codi. Mae’r system hefyd yn arbed amser i’r gweithwyr wrth symud sawl blwch ar yr un pryd i’r cerbydau casglu.
Yn achos y trigolion, mae fflapiau ar y blychau canol a gwaelod yn hwyluso gosod deunydd heb symud y blychau, a chlawr cloi ar y top er mwyn cadw’r deunydd yn saff pan fydd gwynt cryf. Roedd gwynt hefyd yn ystyriaeth wrth osod traed ar y blwch gwaelod.
Gwella cyfranogiad y cyhoedd
Roedd trigolion Conwy yn rhan o’r holl broses o gyflwyno’r Trolibocs. Trefnodd y Cyngor sioeau teithiol a dosbarthodd becyn gwybodaeth er mwyn esbonio’r rhesymau am gyflwyno’r system newydd. Yn ystod profion, nododd 97% o’r defnyddwyr eu bod yn hapus gyda’r Trolibocs.
Yna cyflwynwyd y system newydd, gydag arolwg Recycle Now wedi derbyn ymateb gan 20% o drigolion Conwy a 77% yn dweud eu bod yn ailgylchu popeth posibl, a llai na 1% yn dweud nad oeddent yn ailgylchu a ddim yn bwriadu dechrau. Ar ben hynny, dywedodd 83% o’r ymatebwyr eu bod yn defnyddio’r gwasanaethau ailgylchu bob wythnos.
Er bod 98% o 51,000 cartref lefel isel y sir yn defnyddio system Trolibocs, roedd nifer fach wedi glynu at yr hen drefn oedd yn cynnwys bag ar gyfer plastig a chaniau, sach ar gyfer papur a bocs ar gyfer gwydr a chardbord. Roedd angen yr opsiwn hwn oherwydd rhwystrau corfforol, megis stepiau o’r cartref i’r palmant.
Cynyddu ailgylchu, arbed arian
Mae Cyngor Conwy yn amcangyfrif bod cyflwyno’r system ar draws y sir wedi cynyddu’r deunydd ailgylchu sych a gesglir dros 600 tunnell y flwyddyn. Mae hynny wedi atal gwerth dros £60,000 o ddeunyddiau rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac wedi ennill incwm o £40,000 am y deunydd ailgylchu.
Yn gyffredinol, mae hynny’n golygu bod y system wedi cyfrannu arbediad refeniw blynyddol o £100,000 wrth osgoi costau tirlenwi a derbyn taliadau am ddeunydd ailgylchu. Yn benodol, mae’r papur a gesglir mae codi oherwydd mae tri blwch yn yr un pecyn, sy’n golygu bod pobl yn fwy tebygol o ddarparu amrediad llawn o ddeunydd ailgylchu bob wythnos.
O bwynt cychwyn oedd eisoes yn uchel, mae’r Cyngor wedi gweld cynnydd o 1.3% tuag at y targedau ailgylchu statudol, ac yn barod wedi pasio targed statudol 2015/16 o 58% wrth gyrraedd 59% yn y 12 mis hyd fis Medi 2015. Wrth wneud hynny, roedd y Cyngor wedi osgoi talu dirwy o £108,000 y flwyddyn am fethu cyrraedd y targedau.
Ailgylchu safon uchel
Nod Trolibocs yw cynnal system ailgylchu cylch caeedig safon uchel, yn cynnwys papur a gwydr. Mae’r Cyngor wedi datblygu cysylltiadau dibynadwy â marchnadoedd hir dymor yn y Deyrnas Unedig, sy’n cynhyrchu dros £500,000 y flwyddyn wrth werthu deunyddiau. Hyd yn oed gyda’i wasanaeth cynhwysfawr, gwelodd y Cyngor y gellid ailgylchu 51% o’r deunyddiau yn y bin gweddilliol wrth ddefnyddio’r casgliadau presennol.
Felly, ym mis Gorffennaf 2016 gostyngodd y casgliadau gwastraff gweddilliol i unwaith bob tair wythnos ar gyfer y mwyafrif o’r trigolion a bydd hefyd yn profi casgliadau bob pedair wythnos gyda 10,500 cartref. Mae’n amcangyfrif gallai system casglu bob pedair wythnos arbed £558,000 y flwyddyn i’r Cyngor, tra’n gostwng lefelau gwastraff gweddilliol bron 18%. Disgwylir bydd casgliadau bob tair wythnos yn arbed £213,000. Bydd y gwasanaeth diwygiedig yn golygu bydd lefelau cynhwysedd wythnosol pob cartref yn 155 litr ar gyfer deunydd ailgylchu sych yn y Trolibocs, 23 litr yn achos gwastraff bwyd a phrin 80 litr gwastraff gweddilliol (neu 60 litr yn achos casgliadau bob pedair wythnos).